Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

Adroddiad drafft

 

CLA

 

Teitl:  Rheoliadau Cynllun Taliad Sylfaenol a Chynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Cymru) 2015

 

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth, o ran Cymru, ar gyfer gweinyddu Rheoliad (EU) Rhif 1307/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n sefydlu’r rheolau ar gyfer taliadau uniongyrchol i ffermwyr o dan gynlluniau cymorth o fewn fframwaith y polisi amaethyddol cyffredin (OJ Rhif L 347, 20.12.2013, t. 608) (“y Rheoliad Taliadau Uniongyrchol”) a’r tri o Reoliadau cysylltiedig eraill yr UE y cyfeirir atynt yn rheoliad 2(1). 

 

GweithdrefnNegyddol

 

Materion technegol: craffu

 

Nodwyd y pwyntiau a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn:

 

1.                Mae rheoliad 17 yn honni ei fod yn diddymu Rheoliadau Cynllun Taliad Sengl a Chynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Cymru) 2010 a Rheoliadau Cynllun Taliad Sengl a Chynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Cymru) (Diwygio) 2012. Diddymwyd y Rheoliadau hynny’n flaenorol gan Reoliadau’r Polisi Amaethyddol Cyffredin (System Integredig Gweinyddu a Rheoli a Gorfodi a Thrawsgydymffurfio) (Cymru) 2014 (‘Rheoliadau 2014’). Mae Rheoliad 17 a Rheoliadau 2014 yn cynnwys darpariaethau arbed, ond nid yw’n eglur beth yw effaith gyfunol dirymiad dwbl a dwy gyfres o ddarpariaethau adfer. [Mae angen eglurhad pellach o ran Rheol Sefydlog 21.2 (v) a (vi) - oherwydd drafftio diffygiol.]

 

 

Rhagoriaethau: Craffu

 

Nodwyd y pwyntiau a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

 

2.       Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 14 Mai 2015 ac mae rheoliad 10(1) yn ei gwneud yn ofynnol i geisiadau gael eu cyflwyno i Weinidogion Cymru erbyn 15 Mai. Nid yw’r Rheoliadau na’r Memorandwm Esboniadol yn egluro sut y disgwylir i ymgeiswyr gydymffurfio â’r terfyn amser cyfyngedig iawn hwn.  Dylai’r Memorandwm Esboniadol fod wedi egluro pa gamau a gymerwyd gan Weinidogion Cymru cyn y daw’r Rheoliadau i rym, er mwyn galluogi ceisiadau i gael eu cyflwyno erbyn y dyddiad cau hwnnw.  [Rheol Sefydlog 21.3 (ii) – ei fod o bwysigrwydd cyhoeddus sy’n debygol o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad.]

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

 

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

Mai 2015